
Does dim amheuaeth mai Eryri yw un o brif ganolfannau Prydain ar gyfer gweithgareddau awyr agored - o ddringo mynyddoedd i rwyfo caiac, beicio i hwylfyrddio - gallwch ei fwynhau yma. Ond does dim rhaid i chi ddringo mynyddoedd, gallwch fwynhau’r olygfa. Gallwch archwilio castell neu orsaf drydan danddaearol. Ewch i badlo yn y môr neu prynwch gwpan wedi ei gwneud â llaw. Glaw neu hindda, pa adeg bynnag o’r flwyddyn, fe allwn ni’n wir gynnig rhywbeth i bawb. Ewch i’r adran “Gwybodaeth i Ymwelwyr” os am syniadau am ble i fynd a beth i’w wneud.
Does dim rhaid i chi boeni chwaith bod eich ymweliad yn cael effaith andwyol ar amgylchedd hyfryd Eryri. Mae’r gwasanaeth Bws Sherpa’r Wyddfa yn golygu y gallwch barcio’ch car a theithio ar fws o gwmpas yr Wyddfa, gan gysylltu â theithiau cerdded ac ymweld â phentrefi ac atyniadau. Cewch yr holl wybodaeth ar ein dolenni “Map”, “Parcio” a “Bysus Sherpa”.
Trwy ddefnyddio llai ar eich car yn y parc cenedlaethol fe fyddwch yn ein helpu i weithio at ein gôl o Eryri lanach, wyrddach – mwynhewch eich ymweliad.
...rhagor »
Gall gwybod am y lle gorau i barcio, er mwyn osgoi’r rhwystredigaeth o orfod dod o hyd i feysydd parcio sydd efallai’n llawn ar ôl i chi eu cyrraedd, fod o gymorth i chi wneud y gorau o’ch hamser yn y mynyddoedd.
...rhagor »