Adref  |  Parcio  |  Trafnidiaeth  |  Awyr Agored  |  Am-dan Menter SGK  |  Prosiectau  |  Cysylltu  |  COA
Logo Goriad Gwyrdd Eryri Gwynedd Council Conwy Council Snowdonia National Park Countryside Council for Wales Wales Tourist Board Welsh Assembly Government

English Am-dan Menter SGK




Nod Goriad Gwyrdd Eryri yw datblygu cefn gwlad yn llwyddiannus mewn ffordd gynaliadwy, gyda chynnydd yn elw busnesau lleol, a chyda system drafnidiaeth gyhoeddus well a mwy hyblyg er budd bawb. Cliciwch yma ar gyfer Nodau ac Amcanion.

Goriad i Iechyd Gwell

 

Rhinwedd arall Goriad Gwyrdd Eryri yw ei fod yn ymdrin â rhai o'r pryderon cyfredol am afiechydon sy'n gysylltiedig â diffyg ymarfer corff. Bydd gwella a chyfuno'r ffyrdd gwahanol o deithio yn gwneud ymarfer corff yn fwy cyfleus a hwylus. Bydd cyfuno llwybrau troed a beic a'u cysylltu â thrafnidiaeth gyhoeddus yn cael gwared ar un o'r rhwystrau rhag ymarfer corff, ac yn ei gwneud yn haws i bobl wneud newidiadau yn eu bywydau. Bydd y system bwrpasol hon o lwybrau cysylltiedig yn hynod ddeniadol i'r rhai sy'n mwynhau'r awyr agored, a bydd hefyd yn helpu meithrin ac annog defnyddwyr newydd.

Mae clefyd cardio fasgwlar ac afiechydon eraill sy'n deillio o ddiet gwael a diffyg ymarfer corff yn broblem neilltuol yng Nghymru. Mae canfyddiadau ymchwil yn dangos y gellid cyflwyno beicio a cherdded fel rhan o fywyd cyffredin bob dydd, gan eu bod yn fathau o ymarfer corff sydd ar gael i bobl o bob oedran, waeth beth fo'u cefndir.

Mae Goriad Gwyrdd Eryri yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Conwy, Cyngor Gwynedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Adran Economi a Thrafnidiaeth (WDA gynt) Cynulliad Cenedlaethol a Croeso Cymru.

Am ragor o wybodaeth ar gefndir y prosiect, cliciwch ar y dolenni isod:



Gwasanaeth Bws Sherpa

goriadgwyrdderyri Does dim rhaid i chi boeni chwaith bod eich ymweliad yn cael effaith andwyol ar amgylchedd hyfryd Eryri. Mae’r gwasanaeth Bws Sherpa’r Wyddfa yn golygu y gallwch barcio’ch car a theithio ar fws o gwmpas yr Wyddfa, gan gysylltu â theithiau cerdded ac ymweld â phentrefi ac atyniadau. Cewch yr holl wybodaeth ar ein dolenni “Map”, “Parcio” a “Bysus Sherpa”.
Trwy ddefnyddio llai ar eich car yn y parc cenedlaethol fe fyddwch yn ein helpu i weithio at ein gôl o Eryri lanach, wyrddach – mwynhewch eich ymweliad.
...rhagor »

Ble i barcio

alt_tag_cym Gall gwybod am y lle gorau i barcio, er mwyn osgoi’r rhwystredigaeth o orfod dod o hyd i feysydd parcio sydd efallai’n llawn ar ôl i chi eu cyrraedd, fod o gymorth i chi wneud y gorau o’ch hamser yn y mynyddoedd.

...rhagor »

RSS Feed Newyddion y prosiect

Amserlen Gaeaf Sherpa
Amserlen Sherpa: 06/09/10 - 15/04/11 ...rhagor »

Newyddion arall am y prosiect :

  • Tocun £1 ar Gael
  • Pen y Gwryd
  • Aros yn ddiogel ar y Mynyddoedd
  • Gwobrau arian parod hael i Fusnesau Twristiaeth Gwyrdd!
  • Gwaith i greu llwybr pwysig yn Eryri yn cychwyn
  • Bws Sherpa ar BBC Countryfile