English Cefndir y Prosiect
Ym 1998 comisiynwyd Adran Ymchwil Cynllunio Amgylcheddol Prifysgol Caerdydd i ymchwilio i'r mesurau ymarferol y gellid eu cyflwyno er mwyn i ymwelwyr fwynhau Gogledd Eryri mewn ffyrdd a fyddai'n llai dibynnol ar y car preifat ac a fyddai'n fwy buddiol i'r economi leol. Daethpwyd i'r casgliad y byddai cyflwyno Gwasanaeth Parcio a Theithio, gai ei hybu gan rwydwaith bws a rheilffordd gyfannol, a rhoi cyfyngiadau ar barcio trwy sefydlu clirffordd cefn gwlad, o fudd mawr i Ogledd Eryri.
Cydnabu'r adroddiad, fodd bynnag, y byddai rhaid cyflwyno’r cynllun fel arbrawf i ddechrau gan ei fod mor arloesol. Penodwyd Newidiem i wneud Dadansoddiad o Effaith Economaidd o Argymhellion yr Ymchwiliad. Daethpwyd i'r casgliad y gellid gwneud elw sylweddol a chreu swyddi'n flynyddol, unwaith y byddai'r cynllun yn rhedeg yn iawn.
Datganiad Strategaeth Goriad Gwyrdd Eryri
Ar sail yr argymhellion cyfunol yma, aeth Partneriaeth Awdurdodau Goriad Gwyrdd Eryri ati i gynhyrchu Datganiad Strategaeth Goriad Gwyrdd Eryri 2001. Yn sylfaenol, byddai cyfres o byrth yn cael eu sefydlu ar gyrion craidd gogledd Eryri. Yna, yn y pentrefi a'r cymunedau sydd o fewn ei chraidd, ceid gwelliannau i'r cyfleusterau a'r gwasanaethau i dwristiaid. I danategu'r cynllun byddai System Barcio a Theithio'n cael ei redeg o'r pyrth drefi, ac o fewn yr ardal greiddiol, byddai parcio ar fin y ffordd yn cael ei wahardd. Awgrymwyd yn gryf y gallai'r fenter hon roi hwb sylweddol i'r economi leol.
Ym mis Rhagfyr 2001, cyhoeddwyd Datganiad Ymgynghorol Drafft Strategaeth Goriad Gwyrdd Eryri, ac yn gynnar yn 2002 aethpwyd ati gyda'r ymgynghoriad manwl.
Yn 2002, penodwyd tîm amlddisgyblaeth dan arweiniad Ymgynghorwyr RPS (arbenigwyr Ymgynghori Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd o Gaerdydd) i ddatblygu Datganiad Strategaeth Goriad Gwyrdd Eryri i fod yn gynllun gweithredol. Roedd raid iddynt fod yn bresennol mewn amryw o gyfarfodydd cyhoeddus, oedd wedi'u trefnu'n barod, ledled Gogledd Eryri ym mis Ionawr a Chwefror 2002. Arweiniodd hyn at Adroddiad Ail-werthuso Goriad Gwyrdd Eryri ym mis Mawrth 2002, a gynhyrchwyd gan RPS.
Adroddiad Ail-werthuso R.P.S. Report
Derbyniwyd adborth helaeth trwy'r cynllun gwreiddiol a thrwy gyfarfodydd cyhoeddus, a chasglwyd gwybodaeth arwyddocaol a gwerthfawr gan y grŵp gwrthwynebol 'Hawl i Ddewis'/Freedom to Choose. Roedd y neges yn unfryd - ni thybid y byddai system 'parcio a theithio' gorfodol yn dderbyniol am 'nad oedd yn ymarferol, byddai goblygiadau diogelwch dirfawr ac ni fyddai'n gyfleus'.
Daeth y strategaeth, fel y'i cynhyrchwyd yn 2001, wyneb yn wyneb a gwrthwynebiad brwd. Ond, yn y bôn, dim ond ar sail y 'parcio a theithio' gorfodol a'r argymhellion clirffyrdd cefn gwlad yr oedd hyn. Awgrymwyd y byddai adwaith mwy ffafriol pe dileed y ddwy elfen yma, gan fod mynegiant cyffredinol o blaid yr amcanion amgylcheddol ac economaidd y ceisiai'r Fenter eu gweithredu. Trwy'r ymchwil, daeth RPS i'r casgliad y byddai'r canran o ymwelwyr o blaid Parcio a Theithio gryn dipyn yn llai nac a ragwelwyd yn Astudiaeth 1998. Ystyriwyd y byddai buddiannau economaidd y Fenter hefyd yn debyg o fod lawer iawn yn is nac a dybiwyd yn wreiddiol.
Strategaeth a Chynllun Gwaith 2008-2009
Ar sail y gwaith ymgynghori blaenorol cynhyrchwyd dogfen strategaeth yn 2008. (cliciwch yma i lawr lwytho copi)