English Cyfarfodydd
Mae Goriad Gwyrdd Eryri'n cynnwys Pwyllgor Gwaith, gyda Chadeirydd, Aelodau Portffolio a Swyddogion Gweithredol, sy'n cwrdd fesul chwarter. Fe'i cefnogir gan Grŵp Rheoli o Swyddogion Technegol Enwebedig o bob Grwp Thema, sydd hefyd yn cwrdd yn chwarterol. Mae'r Pwyllgor Gwaith a'r Grŵp Rheoli'n cwrdd fel bo angen.
Mae cnewyllyn o Grwpiau Thema yn cynnig syniadau i'r Pwyllgor Rheoli. Mae'r grwpiau hyn yn cynrychioli gwahanol fuddiannau yn yr ardal. Mae'r grwpiau'n ymdrin â: llwybrau o fewn y cymunedau, trafnidiaeth gyhoeddus, strwythur priffyrdd, cyd-gysylltu â'r gymuned, datblygu economaidd a marchnata.
Mae'r Grwpiau Thema hefyd yn cynnig llwyfan i grwpiau ffocws penodol a grwpiau defnyddwyr er mwyn iddynt leisio eu barn i'r pwyllgor rheoli.
Am grynodeb o gyfarfodydd, cliciwch y ddolen isod: