English Goriad Gwyrdd Eryri - Cynlluniau Diweddara
Nant Peris
Mae disgwyl i’r gwaith cychwynnol, a fydd yn cynnwys ail-adeiladu rhannau o’r wal gerrig ar hyd ffordd yr A4086 yn Nant Peris, a darparu llwybr ffordd addas y tu ôl i’r wal i greu cyswllt newydd rhwng y maes parcio a’r hostel gael ei gwblhau erbyn diwedd Mawrth.
Yn y dyfodol, mae gobaith y bydd posib, fel rhan o argymhelliad Cylchdaith yr Wyddfa, i gysylltu a gwella rhannau o’r llwybr sy’n rhedeg ar hyd ochr ddeheuol o’r afon rhwng Gwastadnant a Phen y Pass fel y gall cerddwyr barcio ym maes parcio Nant Peris, a cherdded oddi ar y fordd i fyny i Ben y Pass.
Maes Parcio Bwthyn Ogwen
Crëwyd un ar ddeg o safleoedd parcio newydd yn y maes parcio prysur a phoblogaidd hwn. Mae hyn er mwyn cael gwared ar y parcio anghyfreithlon ar y llwybr troed ger Bwthyn Ogwen. Mae gwaith gwella cyfleusterau encilfa Bryn Melyn yn parhau.
Plas y Brenin
Mae gwaith ailosod wyneb llwybr troed glan y llyn yn parhau ac mae giât mochyn/grid gwartheg yn cael ei osod wrth geg y lôn.
Llwybr beic o Gapel Curig i Fetws y Coed
Caiff arwyddbyst newydd eu gosod er mwyn dynodi'r llwybr beic rhwng Capel Curig a Betws y Coed.
Pen y Gwryd
Yn ystod cyfnodau prysur caiff dros 200 o geir eu parcio ar rannau segur o'r ffordd ac ar fin y ffordd o gwmpas Penygwryd. O'r copaon, mae'r ceir i'w weld yn glir ac mewn rhai mannau mae'n annerbyniol o safbwynt diogelwch y ffyrdd. Nid oes maes parcio cyhoeddus yno, ac mae'r ardal o amgylch yn Safloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig tra bod gweddill yr ardal yn amgylcheddol sensitif. Nid oes ateb syml i broblem parcio Penygwryd, ond mae amryw o syniadau wrthi'n cael eu hystyried, megis creu ambell i faes parcio ffurfiol a gwella'r gwasanaeth bws.
Maes parcio Glan Llyn Llanberis
Gosodwyd llinellau melyn er mwyn rhwystro ceir rhag parcio ar y pafin. Bydd hyn gwella gwelededd. Yn y gaeaf bydd gwaith yn cychwyn ar ehangu'r maes parcio i oddeutu 80 safle a chaiff peiriant talu ac arddangos ei osod. Bydd modd i faniau bychain gydag ôl gerbydau, sy'n defnyddio'r maes parcio am gyfnod byr, ddefnyddio maes parcio'r bysiau ger maes parcio'r Mynydd Gwefru.
Arhosfa Bws
Mae arhosfa bws newydd yn cael ei gynllunio ar gyfer maes parcio Nant Peris.
Marchnata
Mae hunaniaeth brand yn cael ei ddatblygu ar gyfer pob cynnyrch Sherpa ac ymgyrchoedd marchnata cysylltiedig. Mae cyfres o daflenni a phosteri yn cael eu cynllunio i hyrwyddo teithiau cerdded llinol sy'n defnyddio'r bws Sherpa, a chant eu dosbarthu ledled Eryri.