Adref  |  Parcio  |  Trafnidiaeth  |  Awyr Agored  |  Am-dan Menter SGK  |  Prosiectau  |  Cysylltu  |  COA
Gwynedd Council Conwy Council Snowdonia National Park Countryside Council for Wales Wales Tourist Board Welsh Assembly Government

English Prosiectau Sydd Wedi'u Cwblau



Pen y Pas

Caiff Pen y Pas ei ystyried yn un o brif gyrchfannau Gogledd Eryri gan nifer o ddefnyddwyr. Dim ond rhyw 90 o encilfeydd parcio sydd yn y maes parcio gyda galw am lawer mwy. Mae gwybodaeth gyfredol, sy'n datgan a yw'r maes yn llawn ai peidio, yn awr ar gael ar arwyddion ar naill ochr Pen y Pas ac yn Nant Peris. Y gobaith yw y bydd hyn yn lleihau'r teimlad o rwystredigaeth a'r nifer o deithiau anorfod trwy'r Parc Cenedlaethol.

Encilfa Bochlwyd

Arferai'r maes parcio hwn orlifo, roedd yn orlawn o dyllau ac yn beryglus i gerddwyr am nad oedd modd cadw'r ceir a'r cerddwyr ar wahân. Mae yn awr wedi ei ail-gynllunio a gosodwyd arwyneb newydd o ddeunydd addas i greu maes parcio ffurfiol. Ar ochr draw'r llwybr troed codwyd wal fechan fydd yn gwella diogelwch cerddwyr ac yn rhannol guddio effaith y ceir sydd wedi parcio.

Min Ffordd Gwern Gof Uchaf

Mae'r llain barcio 500m hon ar fin ddeheuol y ffordd (ochr Tryfan) yn un o'r meysydd parcio mwyaf poblogaidd yn Nyffryn Ogwen. Yn ddiweddar, gosodwyd arwyneb newydd er mwyn cryfhau ymyl y ffordd. Mae rhes o goed yn cuddio'r ceir o olwg y mynyddoedd, ac mae gwaith ymchwil yn parhau i weld os fydd modd gosod llwybr troed diogel y tu ôl i'r ceir.

Lifrai'r Bysiau

Mae gan bob bws Sherpa lifrai newydd sy'n cynnwys y logo Sherpa er mwyn ei gwneud yn amlwg eu bod yn rhan o'r fflyd.


Betws y Coed

Saif Betws-y-coed yng nghanol Dyffryn Conwy ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid trwy gydol y flwyddyn. Dechreuodd y prosiect gydag ymgynghoriad helaeth gyda'r gymuned leol, cynghorwyr lleol a Chymdeithas Dwristiaeth Betws-y-coed. Dangoswyd fod angen gwella parcio yn y pentref ac roedd pryderon, hefyd, nad oedd unlle yn y pentref i fysiau droi heb orfod mynd wysg eu cefn. O ganlyniad i'r prosiect, bu'n rhaid ailosod wyneb maes parcio cyfredol APCE gyda 'grasscrete' a nawr mae 180 o lefydd parcio yng nghanol y pentref ar hyd y flwyddyn. Adeiladwyd cyfnewidfa fws ger y maes parcio, yn agos i Rheilffordd Dyffryn Conwy a siopau'r pentref, sy'n rhoi lle diogel i fysiau droi. Mae mewn lleoliad amlwg i hyrwyddo'r gwasanaeth bws Sherpa i'r Parc Cenedlaethol, yn ogystal â thrafnidiaeth gynaliadwy. Amcan y prosiect hwn, felly, oedd diwallu anghenion y gymuned leol a defnyddio deunyddiau lleol sensitif a llafurlu lleol wrth wella cyfleusterau i dwristiaid i'r ardal. Ariannwyd y prosiect trwy Grant Trafnidiaeth Goriad Gwyrdd Eryri, Grant Trafnidiaeth Cyngor Bwrdeistref Conwy a chyfraniad gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.


Bryn Glo

Datblygwyd y prosiect hwn ym Mryn Glo, Capel Curig ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Conwy, Cyngor Cymunedol Capel Curig a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rhan segur o'r briffordd oedd encilfa Bryn Glo. Roedd yr arwyddion yn rhai gwael ac roedd iddi ddwy fynedfa beryglus ar y naill ochr. Golyga'r prosiect ailosod wyneb y maes parcio gyda 'grasscrete', ail godi'r waliau gan ddefnyddio cerrig parod a chreu un fynedfa ddiogel yng nghanol y gofod. Yn awr, mae arwyddbyst amlwg i'r maes parcio a chaiff ei ddefnyddio’n gyson, ac mae'n ased i'r gymuned leol. Cafodd y prosiect ei ganmol yn lleol. Fe'i hariannwyd gan Oriad Gwyrdd Eryri a Llywodraeth Cynulliad Cymru.


Nant Peris

Caiff maes parcio APCE ei ddefnyddio fel maes parcio gorlif i Ben-y-Pas a gall lenwi'n gyflym yn ystod amseroedd prysur. Byddai prosiect Goriad Gwyrdd Eryri'n golygu ehangu’r maes parcio i ddarparu 47 lle ychwanegol. Unwaith eto, defnyddiwyd 'grasscrete' ar wyneb yr encilfeydd er mwyn lleihau'r effaith weledol. Cynt, roedd yr arhosfa bws ar fin y ffordd y tu hwnt i'r maes parcio, ond nid oedd unlle diogel i bobl sefyll i aros y bws. Trwy'r prosiect hwn, crëwyd lle troi i fysiau o fewn y maes parcio gyda lle diogel i bobl aros y bws. Hefyd, fel rhan o'r prosiect, bydd cysgodfa'n cael ei chodi lle bydd gwybodaeth gyfredol (real time) i deithwyr.

Llanberis

Trwy Oriad Gwyrdd Eryri, cafodd cyfnewidfa fws ei chodi ym mhentref Llanberis. Mae hon yn cysylltu bysiau Sherpa'r Wyddfa gyda'r prif wasanaeth i Gaernarfon a Bangor, a hefyd gyda Rheilffordd yr Wyddfa a Rheilffordd Llyn Padarn. Codwyd dwy gysgodfa o lechi fel rhan o'r cynllun, a chaiff paneli gwybodaeth gyfredol eu gosod yno. Hefyd, cafwyd nifer o welliannau amgylcheddol o gylch y pentref. Ehangwyd y llwybr beic i ganol y pentref, lledaenwyd llwybrau troed a gosodwyd dyfeisiadau tawelu trafnidiaeth. Cafodd arwyddbyst eu gwella, ymestynnwyd y llwybr troed i gysylltu Llanberis a Nant Peris, a chafodd cysylltiadau eu gwella er mwyn denu mwy o ymwelwyr i'r stryd fawr. Ail osodwyd wyneb y llwybr ger Afon Hwch a gosodwyd meinciau yno. Mae Partneriaeth Llanberis wedi datblygu llwybrau treftadaeth yn y pentref ac o'i gwmpas. Abergwyngregyn


Abergwyngregyn


Mae prosiect cymunedol wedi creu trefn parcio newydd i ymwelwyr i Warchodfa Natur Coedydd Aber. Bydd parcio di-dâl ym mhentref Abergwyngregyn i annog ymwelwyr i adael eu ceir yno cyn mynd i brofi'r golygfeydd godidog o'r rhaeadr. Cynlluniwyd hyn ar y cyd â'r gymuned a sefydliadau sy'n gweithio yn y cwm er mwyn annog pobl i barcio yn y pentref. Bydd hyn yn lleihau tagfeydd wrth y mynediad i'r warchodfa ac yn annog pobl i ddefnyddio cyfleusterau lleol a chefnogi'r economi leol. Mae'r prosiect wedi creu 27 lle parcio di-dâl yn y pentref ar ymyl yr hen lôn gyferbyn â'r siop ddodrefn pin yn y pentref. Mae lle i 38 o geir yn y meysydd parcio talu ac arddangos ymhellach fyny'r cwm ger mynedfa'r Warchodfa, ynghyd â dau ofod i'r anabl. Bydd y ffi o £2.00 yn cyfrannu at gyflogi warden lleol i gynnal a chadw'r meysydd parcio. Mae Goriad Gwyrdd Eryri a Chyngor Cefn Gwlad Cymru wedi ariannu'r gwaith ar y meysydd parcio. Cafwyd arian pellach gan Gyngor Gwynedd i gynllunio a goruchwylio'r prosiect, yn ogystal ag i wella'r mannau mynd heibio ar y llwybr at y warchodfa.