Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
• Beth yw Goriad Gwyrdd Eryri?
Mae
Goriad Gwyrdd Eryri yn fenter sydd yn ymdrin â materion teithio
cynaliadwy i’r ardal ac o fewn yr ardal. Ynghyd â gwelliannau
amgylcheddol, bydd y prosiect hefyd yn cynorthwyo i uchafu’r cyfleoedd
ar gyfer gwell datblygiadau economaidd i fusnesau lleol. Y bwriad
allweddol yw darparu gwasanaeth trafnidiaeth y mae pobl yn ymddiried
ynddo ac yn dymuno’i ddefnyddio.
• Pwy sydd yn rhedeg Goriad Gwyrdd Eryri?
Mae’r
fenter yn cael ei rhedeg gan bartneriaeth o Awdurdodau Lleol Conwy a
Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Cefn Gwlad Cymru,
Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau Llywodraeth Cynulliad Cymru a
Croeso Cymru.
• Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth am Goriad Gwyrdd Eryri?
Fe
geir diweddariadau rheolaidd yma ar wefan Eryri-Bywiol. Mae gwefan
newydd wrthi’n cael ei datblygu. Yn y cyfamser fe allwch glicio ar:
www.snowdoniagreenkey.co.uk
• Ydi hi'n wir na all ceir deithio i'r Parc Cenedlaethol?
Na,
nid oes unrhyw gyfyngiadau ar geir yn gyrru i mewn i graidd y Parc
Cenedlaethol. Fodd bynnag, mae meysydd parcio allweddol yn llenwi yn
gynnar yn y bore felly mae defnyddio bysiau yn osgoi’r rhwystredigaeth
o ddarganfod man parcio sydd gerllaw i fannau cychwyn llwybrau cerdded
poblogaidd. Mae cyfres o drefi a phentrefi mynediad ar ymylon y Parc
wedi eu dynodi. Fe anogir defnyddwyr i deithio i’r lleoliadau hyn ble y
bydd opsiynau parcio ar gael yn rhwyddach. Fe fydd opsiynau
trafnidiaeth cynaliadwy o’r mynedfaoedd hyn yn lleihau cyfanswm y
traffig sydd yn teithio trwy’r Parc.
• A fydd y cynllun wirioneddol yn darparu ar gyfer defnyddwyr yr awyr agored?
Bydd,
mae’r cynllun yn canolbwyntio ar gyflwyno rhagor o opsiynau ar gyfer
rhagor o ddefnyddwyr. Mae hyn yn golygu darparu mwy o hyblygrwydd ar
gyfer cerddwyr, felly os ydych yn gorffen eich taith gerdded yn hwyr,
neu os ydych am fentro ar daith gerdded llinol, fe fydd yna opsiynau
trafnidiaeth ar eich cyfer. Yn yr un modd, fe anogir beicwyr i fforio’r
Parc. Fe fydd gan fysiau gludwyr beiciau ynghyd â mannau cadw bagiau.
Fe fydd meysydd parcio estynedig mewn lleoliadau mynediad allweddol yn
lleihau traffig o fewn y Parc, gan wneud profiad pawb o Eryri’n fwy
esthetig foddhaus. Bydd cynllun parcio a theithio dibynadwy hefyd o
gymorth i gadw cerddwyr yn ddiogel a’u hatal rhag cael eu gorfodi i
droedio ar briffyrdd er mwyn cael mynediad i lwybrau cerdded
poblogaidd.
• Sut y mae Eryri-Bywiog ynghlwm â hyn?
Fe
fyddwn yn darparu colofn Goriad Gwyrdd rheolaidd ar ein gwefan. Mae
cefnogi a datblygu’r sector awyr agored yn greiddiol i’r gwaith a
wnawn. Gwelwn y fenter hon fel cam hanfodol ymlaen tuag at ddyfodol hir
dymor Eryri. Mae’n gyfle pwysig i’n sector i fod ynghlwm yn agos yn y
gwaith o amddiffyn y tirlun yr ydym i gyd yn ei fwynhau yn fawr, ac y
mae llawer ohonom yn ddibynnol arno ar gyfer ein bywoliaeth.
• Beth yw'r cam nesaf?
Yr
ydym i gyd erbyn hyn yn wynebu'r sialens o newid ein hen arferion a
mabwysiadu ymarferion newydd. Nid yw hyn yn mynd i fod yn hawdd o bell
ffordd, ond ag ymdrech gan bob un ohonom, fe allwn gychwyn chwarae rhan
yn nyfodol cynaliadwy Eryri. Fe fyddwn yn darparu cyswllt hanfodol, yn
darparu gwybodaeth, cyngor ac opsiynau ynglŷn â'r ffyrdd sut y gallwch
chi fod ynghlwm â'r broses.