Adref  |  Parcio  |  Trafnidiaeth  |  Awyr Agored  |  Am-dan Menter SGK  |  Prosiectau  |  Cysylltu  |  COA
Gwynedd Council Conwy Council Snowdonia National Park Countryside Council for Wales Wales Tourist Board Welsh Assembly Government

English Goriad Gwyrdd Eryri - Parcio

Parcio Rhwydd yn y Parc Cenedlaethol


 

Mae Parc Cenedlaethol Eryri, ac yn fwyaf arbennig y sector gogleddol, sy’n cynnwys ucheldir y Carneddau, y Glyderau ac Eryri, yr un mor boblogaidd ag erioed ag yn dioddef o bwysau cynyddol gan ymwelwyr. Caiff hyn effaith nid yn unig ar y mynyddoedd eu hunain ond hefyd, ar adegau prysur, gall achosi tagfeydd a phroblemau parcio o fewn ac o gwmpas y Parc.

Er mwyn sicrhau y bydd yr ymwelwyr, sy’n cyrraedd mewn car gan mwyaf, yn parhau i gael mwynhad, mae’n rheidrwydd modern erbyn hyn i hyrwyddo rhwydwaith cludiant integredig, effeithlon, mewn ymdrech i leddfu llif y cerbydau o fewn y Parc, heb ddifetha’i rinweddau arbennig. 

 


Felly, mae parcio yn elfen allweddol o Strategaeth Goriad Gwyrdd, yn ogystal, efallai, a bod yr un mwyaf cynhennus. Y bwriad yw:

Lle bo’n bosib, yn ddelfrydol, bydd meysydd parcio wedi eu cysylltu â llwybrau troed, llwybrau beicio, cyfleusterau cludiant cyhoeddus, megis parcio a theithio ac atyniadau mewn pentrefi/ ar gyfer twristiaid. Yn ei dro, bydd hyn o fudd i ddatblygiad economaidd.

Agwedd bwysig o’r strategaeth yw annog defnyddwyr ceir i dderbyn y syniad o leihau eu dibyniaeth ar geir modur er mwyn teithio o gwmpas y Parc trwy ddefnyddio dulliau teithio eraill, megis parcio a theithio. Golyga hyn, nid yn unig llai o draffig yn y Parc ond hefyd, y bydd yn hawdd cyrraedd lleoliadau poblogaidd sy’n ddeniadol i ymwelwyr, megis Bwthyn Ogwen a Phen– y – Pas, pan fydd meysydd parcio’r ddau le yn llawn. 

Bydd codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth hwn ac annog hyder trwy ddarparu’r wybodaeth a’r cyngor cywir yn hanfodol er mwyn cyflawni’r nod.

 


Fedrith parcio wrth ochr y lon edych yn hyll
Fedrith parcio wrth ochr y lon edych yn hyll