Adref  |  Parcio  |  Trafnidiaeth  |  Awyr Agored  |  Am-dan Menter SGK  |  Prosiectau  |  Cysylltu  |  COA
Gwynedd Council Conwy Council Snowdonia National Park Countryside Council for Wales Wales Tourist Board Welsh Assembly Government

English Cyrraed Yma

Mae gan Eryri gysylltiadau ffyrdd, rheilffyrdd a bysiau gwych â gweddill Prydain a dim ond ychydig oriau mae’n ei gymryd i gyrraedd o brif ganolfannau poblog Manceinion, Birmingham a Lerpwl.



Sherpa Bus stop


Ar y Trên

Mae gwasanaethau trên uniongyrchol yn rhedeg i Gyffordd Llandudno a Bangor o’r rhan fwyaf o Brydain. Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn cynnig cyswllt rhwng Llandudno ag Eryri ac yna ymlaen i Flaenau Ffestiniog. Gellir cyrraedd Machynlleth a Phorthmadog trwy Amwythig ar Reilffordd Arfordir y Cambrian. Am ragor o wybodaeth ar orsafoedd yng Ngogledd Cymru dolen i’r dudalen trenau.
Dyma ancan o hyd siwrne ar y tren i orsaf Bangor o: Euston - 3.5 aws; Birmingham New Street – 3 awr; Manchester Oxford Street - 2.5 awr; Cardiff Central - 4.5 awr


Ar fws

Mae gwasanaethau’r National Express yn rhedeg i Landudno, Bangor, Caernarfon a Phorthmadog o Lundain a Manceinion. Mae Arriva’n rhedeg gwasanaeth bws o dde Cymru i Ddolgellau, Porthmadog, Caernarfon a Bangor.
Dyma ancan o hyd siwrne ar y bws i Caernarfon o: London - 9 awr; Birmingham - 5 awr 40 ; Manchester - 5 awr; Cardiff - 9 awr


Mewn car

Mae’n hawdd cyrraedd o Ogledd Orllewin Lloegr ar yr M56 a’r A55. Mae’r M6, M5 a’r M1 yn cysylltu â Chanolbarth a De Lloegr. Neu, o Ganolbarth Lloegr, gallwch deithio ar hyd yr A5 â’i golygfeydd hyfryd.
I Caernarfon o: London - 5 awr; Birmingham -3 awr; Manchester- 2 awr; Cardiff - 4 awr

Ar feic

Os ydych yn teithio ar feic o’r ardal gyfagos neu o rywle ymhellach, dilynwch y Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol yng nghanol Eryri (Llwybrau 5 & 8).

Dros y môr

Mae Stena Line ac Irish Ferries yn cynnal gwasanaethau rheolaidd i Gaergybi o Ddulyn a Dun Laoghaire.

Mewn awyren

Mae meysydd awyr rhyngwladol Manceinion, Lerpwl a Birmingham lai na dwy awr i ffwrdd. Hefyd mae yna wasanaeth rheolaidd i Ynys Môn o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.