Adref  |  Parcio  |  Trafnidiaeth  |  Awyr Agored  |  Am-dan Menter SGK  |  Prosiectau  |  Cysylltu  |  COA
Gwynedd Council Conwy Council Snowdonia National Park Countryside Council for Wales Wales Tourist Board Welsh Assembly Government

English Am-dan Menter SGK




Nod Goriad Gwyrdd Eryri yw datblygu cefn gwlad yn llwyddiannus mewn ffordd gynaliadwy, gyda chynnydd yn elw busnesau lleol, a chyda system drafnidiaeth gyhoeddus well a mwy hyblyg er budd bawb. Cliciwch yma ar gyfer Nodau ac Amcanion.

Goriad i Iechyd Gwell

 

Rhinwedd arall Goriad Gwyrdd Eryri yw ei fod yn ymdrin â rhai o'r pryderon cyfredol am afiechydon sy'n gysylltiedig â diffyg ymarfer corff. Bydd gwella a chyfuno'r ffyrdd gwahanol o deithio yn gwneud ymarfer corff yn fwy cyfleus a hwylus. Bydd cyfuno llwybrau troed a beic a'u cysylltu â thrafnidiaeth gyhoeddus yn cael gwared ar un o'r rhwystrau rhag ymarfer corff, ac yn ei gwneud yn haws i bobl wneud newidiadau yn eu bywydau. Bydd y system bwrpasol hon o lwybrau cysylltiedig yn hynod ddeniadol i'r rhai sy'n mwynhau'r awyr agored, a bydd hefyd yn helpu meithrin ac annog defnyddwyr newydd.

Mae clefyd cardio fasgwlar ac afiechydon eraill sy'n deillio o ddiet gwael a diffyg ymarfer corff yn broblem neilltuol yng Nghymru. Mae canfyddiadau ymchwil yn dangos y gellid cyflwyno beicio a cherdded fel rhan o fywyd cyffredin bob dydd, gan eu bod yn fathau o ymarfer corff sydd ar gael i bobl o bob oedran, waeth beth fo'u cefndir.

Mae Goriad Gwyrdd Eryri yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Conwy, Cyngor Gwynedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Adran Economi a Thrafnidiaeth (WDA gynt) Cynulliad Cenedlaethol a Croeso Cymru.

Am ragor o wybodaeth ar gefndir y prosiect, cliciwch ar y dolenni isod: