English Llwybr Cerdded
&view &nav2
Mae’r gwasanaeth bws Sherpa Eryri’n teithio o amgylch gogledd Eryri gan gysylltu pentrefi, atyniadau ymwelwyr a theithiau cerdded ar y mynyddoedd fel y gallwch chi adael eich car a chanolbwyntio ar y golygfeydd ysblennydd. Mae’r Sherpa’n mynd heibio man cychwyn pob llwybr i fyny’r Wyddfa a gallai fod yn ddelfrydol ar gyfer llwybrau syth; gallwch barcio’ch car, dal y bws ac yna gerdded yn ôl i’ch car. Mae un awgrym isod:
DIWRNOD ALLAN AR YR WYDDFA
(Taith gerdded - tua 9 milltir am tua 6 awr, graddfa gymedrol)
Mae’r daith yn cychwyn yn Llanberis, tua phedair milltir o Gaernarfon ac wyth milltir o Fangor. (Mae bysiau rhif 88 o Gaernarfon ac 85 / 86 o Fangor yn rhedeg i Lanberis). Pentref glan y llyn wrth droed yr Wyddfa yw Llanberis ac mae’n ganolfan boblogaidd gyda cherddwyr a dringwyr gyda dewis o lety gwely a brecwast, gwestai, caffis a bwytai. Mae dewis o siopau awyr agored, crefftau a bwyd ar y Stryd Fawr a gallwch gael yr holl wybodaeth y byddwch ei angen ar gyfer eich ymweliad yn y Ganolfan Groeso. Mae amrywiaeth eang o atyniadau ymwelwyr hefyd yn Llanberis, ewch i www.llanberis.co.uk am ragor o wybodaeth.
Wrth gyrraedd Llanberis, ewch oddi ar yr A4086 ar y ffordd tua Pharc Padarn (ger y gyfnewidfa fws) a pharcio ym maes parcio Dolbadarn. Mae’r £4.00 o dal parcio dyddiol yn cynnwys un tocyn Sherpa dyddiol rhad ac am ddim (Tocynnau dyddiol Sherpa - £4.00 i oedolion a £2.00 i blant – gallwch fynd a dod ar y rhwydwaith Sherpa faint a fynnoch ar ddiwrnod prynu’r tocyn). Cerddwch yn ôl i’r gyfnewidfa fysiau a chymryd yr S1 i Ben y Pas (cliciwch yma am amserlen fysiau).
Pen y Pas yw canolfan y rhwydwaith Sherpa ac yno mae dau o’r llwybrau i fyny’r Wyddfa’n cychwyn. Y llwybr i’w gymryd heddiw yw Llwybr y Mwynwyr sydd ym mhen pellaf maes parcio Pen y Gwryd. Mae’r daith yn dechrau ar lwybr llydan tuag at Lyn Glaslyn ond yn mynd yn llawer mwy serth y tu hwnt i’r llyn ac at y copa. Cliciwch yma am ddolen i Barc Cenedlaethol Eryri lle ceir disgrifiad llawn o’r llwybr a chyngor ar gerdded mynyddoedd. Os ydych yn dringo’r Wyddfa yn y gaeaf, cliciwch yma am gyngor oddi wrth y Cyngor Mynydda Prydeinig.
Unwaith y byddwch wedi cyrraedd y copa byddwch yn gallu gweld y ganolfan ymwelwyr a’r caffi newydd, Hafod Eryri (yn agor yn y Gwanwyn 2009) – cofiwch mai dim ond pan mae trenau Rheilffordd yr Wyddfa’n rhedeg y mae’r ganolfan ar agor - www.snowdonrailway.co.uk.
Y llwybr y byddwch yn ei ddilyn i lawr yw Llwybr Llanberis, sydd tua phum milltir o hyd ac yn un o’r llwybrau hwyaf ac, yn yr haf, yr hawsaf. Peidiwch â dilyn llinell y rheilffordd yn y gaeaf, gall fod yn hynod o lithrig. Ewch ymlaen at y maen hir ym Mwlch Glas a dilynwch y llwybr sy’n fforchio i’r chwith. Cliciwch yma am ddisgrifiad llawn o’r llwybr.
Daw llwybr Llanberis i ben wrth lidiart a grid gwartheg yn arwain at gilffordd sy’n dod â chi at y brif ffordd ger gorsaf Rheilffordd yr Wyddfa. Croeswch y ffordd a dychwelyd i’r maes parcio.
Isod mae rhai disgrifiadau byr o lwybrau i fyny’r Wyddfa.
Llwybrau Wyddfa
Mae chwe phrif lwybr cerdded i fyny mynydd uchaf Cymru a
Lloegr a Chymru, sef, yr Wyddfa. Maent oll yn unigryw ac yn rhoi golygfeydd
syfrdanol, o’r mynydd ei hun a chopaon o’i amgylch.
Cychwynna dau lwybr o Ben-y-Pass, sef trac y Mwynwyr a thrac
y Pyg. Adeiladwyd Trac y Mwynwyr er mwyn
gwasanaethu Mwyngloddiau Copr Britannia ac mae llwybr y Pyg yn un o’r rhai
mwyaf creigiog a heriol. Cychwynna’r llwybrau eraill o Lanberis, Pont Bethania,
Llyn Cwellyn a Rhyd Ddu. Mae’r linciau isod yn eich arwain at Wefan Parc
Cenedlaethol Eryri sydd â disgrifiadau o’r llwybrau a’r mapiau rhyngweithiol.
Dyma’r llwybr mwyaf poblogaidd gan dwristiaid i ben yr Wyddfa a’r hiraf hefyd, sef pum milltir. Yn yr haf, mae’n un o’r hawsaf i’w gerdded ond yn y gaeaf gall llethrau ucha’r llwybr fod yn hynod beryglus. Cyn adeiladu’r ffordd fawr o’r arfordir i Lanberis, arferai dringwyr orfod cerdded yr holl ffordd o Gaernarfon cyn hyd yn oed dechrau dringo’r Wyddfa ei hun. Yn 1854, teithiodd George Borrow a’i ferch gyda merlen a thrap o Fangor i Gaernarfon, cerdded oddi yno i’r copa ac yna’n ôl i Fangor, i gyd mewn un diwrnod! Mwy...
Adeiladwyd
Llwybr y Mwynwyr i Lyn Glaslyn yn ystod y ganrif ddiwethaf i gyrraedd
Gweithfeydd Copr Britannia. Wedi cau’r gwaith yn 1917, dywedir i Arthur
Lockwood, arferai fod yn reolwr Gwesty Pen y Gwryd pan roedd y gwaith
yn ei anterth, yrru ei gar ar hyd y lôn yr holl ffordd at Lyn Glaslyn.
Mae’r lôn i’r llyn yn dal i fod bron yn ffordd, er wedi ei herydu mewn
mannau, ond serch hynny’n llwybr cerdded diogel a chyffrous i bobol heb
fawr o brofiad o fynyddoedd. Mae’r llwybr heibio i Lyn Glaslyn i’r copa
yn fwy serth o dipyn a gall rhywun fentro’n o arw wrth ei gerdded, yn
enwedig yn y gaeaf. Mwy...
Enwir y llwybr hwn, sy’n un o’r rhai hawsaf i fyny’r mynydd, ar ôl John Morton, y “Snowdon Ranger” hunanhonedig a arferai fyw yn yr adeilad sydd heddiw’n Hostel Ieuenctid ar ddechrau’r llwybr. Arferai fod yn gydymaith i “wŷr bonheddig ddewisai ef i’w hebrwng i fyny’r Wyddfa ac i weld y wlad”. Efallai mai dyma’r llwybr cynharaf i fyny’r Wyddfa ac mae’n debyg iawn i’r un y cerddai’r dynion o Waith Copor Britannia yng Nghwm Dyli ar ei hyd wrth gludo’r mwyn i fyny at Fwlch Glas a’i lusgo yna ar sled i lannau Llyn Cwellyn. Mwy...
Y
llwybr hwn, sy’n dechrau ar uchder o 1,170 troedfedd (359m) yw un o’r
llwybrau mwyaf ysgithrog a herfeiddiol i fyny’r Wyddfa. Yn y gaeaf, pan
fo’r ddaear dan eira a rhew, mae’n llwybr fyddai’n well ichi ei adael
i’r cerddwr mwy profiadol. Mwy...
Dyma
un o’r llwybrau hawsaf a’r un a ddefnyddir leiaf o’r prif lwybrau i
fyny’r Wyddfa. Mae’n mynd heibio i rai o’r golygfeydd mynyddig mwyaf
godidog a gall gweld yr haul yn machlud dros Foel Hebog a bryniau
Nantlle fod yn brofiad ysblennydd iawn. Mae dau fan cychwyn i’r llwybr.
Nid yw’r un sydd agosaf at Feddgelert nepell o faes parcio’r Comisiwn
Coedwigaeth ym Mhont Cae’r Gors. Mae’r ail yn dechrau yn y maes parcio
mawr yn Rhyd Ddu. Mwy...
Enwir
y llwybr hwn ar ôl Syr Edward Watkin, y teicŵn rheilffordd, y mentrwr,
y breuddwydiwr a’r Aelod Seneddol Rhyddfrydol oedd yn byw yn oes
Fictoria. Ar ei ymddeoliad, aeth i fyw i’r “Chalet” yng Nghwm y Llan ac
mae’r llwybr hwn yn gofeb i’w ddyfeisgarwch a’i ddyngarwch. Adeiladwyd
y llwybr i’r copa mewn cerrig gan ei weithwyr ac yn wreiddiol, roedd
modd mynd ar ei hyd cyn belled â’r chwarel mewn car a cheffyl. Roedd
agor y llwybr i’r cyhoedd 1892 ynddo’i hun yn garreg filltir yn hanes
Rhyddfrydiaeth Gymreig wrth i Syr Edward ddwyn perswâd ar William
Gladstone, oedd yn 83 mlwydd oed a newydd ei ethol i’w tymor fel Prif
Weinidog, i berfformio’r seremoni. Wrth graig frig o’r enw Craig
Gladstone, roedd llwyfan wedi’i doi a’i garpedu’n dal y gwesteion tra
roedd torf o fwy na 2,000 o edmygwyr, wedi ymgynnull i glywed yr Hen
Feistr yn siarad. O’r holl lwybrau i fyny’r Wyddfa, Watkin yw’r anoddaf
mae’n debyg. Mae’n tynnu ar i fyny am 3,300 troedfedd. Mwy...
Llwybrau Cerdded Lefel Isel
Bydd pob linc isod yn eich arwain at Wefan Parc Cenedlaethol
Eryri sy’n rhoi disgrifiad o’r llwybrau
a’r mapiau rhyngweithiol ar gyfer rhai teithiau cerdded lefel isel
godidog.
Mae
Llyn Idwal yn 800 medr o hyd ac yn 300 medr o led. Gorwedd y llyn yng
nghysgod y Twll Du ac mae’n gyrchfan boblogaidd iawn i gerddwyr,
dringwyr, pysgotwyr a daearegwyr. Crëwyd y Cwm gan rew filoedd o
flynyddoedd yn ôl ac mae’n un o’r enghreifftiau gorau o gwm rhewlifol
yng Nghymru. Mwy...
Mae tair math o daith yma ac maent i gyd yn dechrau o'r Stablau, sef Canolfan Groeso y Parc Cenedlaethol. Gallwch eu gwneud i gyd gyda'i gilydd (rhwng dwy a thair awr) neu'n unigol (tua awr yr un) neu gyfuniad o ddwy daith fer, yn dibynnu ar faint o amser sydd gennych neu ba mor ffit rydych yn teimlo. Mae'r teithiau hyn yn rhai ysgafn ac yn addas ar gyfer yr holl deulu.
Hypergyswllt: Parc Cenedlaethol