English Goriad Gwyrdd Eryri - Bysus Sherpa
Bysus Sherpa Eryri
Mae gwasanaeth Sherpa Eryri yn teithio trwy ganol rhai o olygfeydd gwychaf Prydain. Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi ymweld â’r trefi a’r pentrefi yn yr ardal o gwmpas a rhoi tro ar amrywiaeth o bethau o’r dewis eang sydd ar gael. Felly pam na helpwch chi leihau effaith eich gwyliau ar yr ardal hyfryd yma trwy barcio’ch car a theithio ar y bws. Isod mae rhai o’r lleoedd y gallwch ymweld â nhw trwy ddefnyddio rhwydwaith y Sherpa (dylech gadarnhau amserau’r bysiau cyn teithio – mae gwybodaeth ar gael mewn Canolfannau Croeso neu fe allwch glicio ar y dolenni isod:
Amserlenni'r SherpaAmserlenni Sherpa - cliciwch ar yr atodiad isod i lwytho i lawr
Amserlenni Rhwydwaith Sherpa'r Wyddfa
Amserlen Hâf 2010 - (29/03/2010 - 04/09/10)
Gwasanaethau Arriva Ychwanegol – Haf 2010
Safle we ddefnyddiol arall sydd yn dangos gwybodaeth cludiant cyhoeddus ar draws Eryri yw; Wefan Sherpa John Bird
Tocynnau
- Tocyn dydd Sherpa’r Wyddfa (£4.00 oedolyn £2.00 plentyn) Prynwch y tocyn ar y bws a’i ddefnyddio ar rhywdwaith Sherpa’r Wyddfa hynny fynnwch chi drwy’r dydd ar y diwrnod y’i prynir.
- Trafeilio ar bysiau S1, S2 a S6 am ddim ond £1 bob taith!
- Tocyn Crwydro Coch (£5.40 oedolyn £2.70 plentyn) – prynwch docyn crwydro ar y bws cyntaf yr ewch arno a’i ddefnyddio drwy’r dydd ar wasanaeth bysus a rifir o 1 i 99 yn llyfrynnau cludiant cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Mon, gwasanaethau Sherpa’r Wyddfa a gwasanaethau X1, X32, X94, a 19, 48, 64, 68,75,85 & X6 yn lyfryn cludiant cyhoeddus Conwy.
- Tocyn Crwydro Gogledd Cymru - mae’r tocyn yma yn ddilys ar fysiau a threnau cludiant cyhoeddus yng Ngogledd Cymru (gan gynnwys Sherpa’r Wyddfa).
- 2 parth : Oedolyn £7, plentyn £3.50;
- 3 parth : Oedolyn £12, plentyn £6.00.
- Gweler www.taith.gov.uk am fwy o wybodaeth.
Meysydd Parcio Sherpa
Isod mae rhestr o feysydd parcio Parc Cenedlaethol Eryri sydd yn gysylltiedig gyda gwasanaeth bws y Sherpa, atyniadau lleol, lefelau isel a theithiau cerdded mynyddoedd:
- Dolbadarn in Llanberis
- Nant Peris
- Capel Bethania - Llwybr Watkin
-
Llyn
Cwellyn - Llwybr Llyn Cwellyn
- Rhyd Ddu
- Bwthyn Ogwen
- Betws-y-coed
