Adref  |  Parcio  |  Trafnidiaeth  |  Awyr Agored  |  Am-dan Menter SGK  |  Prosiectau  |  Cysylltu  |  COA
Gwynedd Council Conwy Council Snowdonia National Park Countryside Council for Wales Wales Tourist Board Welsh Assembly Government

English Trenau

Teithio ar y trên yw’r ffordd mwyaf amgylcheddol gyfeillgar o gyrraedd Eryri. Dyma ganllaw i’r amrywiol orsafoedd yn yr ardal a’r cyffiniau.

Am wybodaeth fanwl am amseroedd trenau, cliciwch yma i gael mynediad at wefan wybodaeth Trainline.

Cyffordd Llandudno



Dyma borth allweddol i gael mynediad i’r Parc...gorsaf yw hon yng ngogledd Cymru. Mae Cyffordd Llandudno yn caniatáu i dwristiaid grwydro i dref hyfryd Llandudno, o ble mae bysys Sherpa’n gadael yn gyson; neu gallant barhau i deithio’n ddyfnach i ogledd Cymru. Gall ymwelwyr i’r ardal gamu oddi ar y prif drenau o Lundain, Manceinion a Crewe yn yr orsaf hon a chamu ar un o’r cysylltiadau cyson â Pharc Cenedlaethol Eryri trwy deithio ar un o’r trenau i Fetws-y-Coed, o ble mae bysys Sherpa’n teithio oddi yno trwy gydol y dydd. Mae’r siwrne ar y trên i Fetws-y-Coed o’r orsaf hon yn cymryd llai na hanner awr a cheir wyth gwasanaeth pob dydd, ac eithrio ar y Sul.


Aberdyfi



Lleolir gorsaf Aberdyfi mewn pentref glan môr ar aber Afon Dyfi. Mae’r pentref yn ganolfan ymwelwyr glan y môr yn bennaf. Mae’r orsaf ar lan y môr ble y ceir hefyd glwb hwylio a phier. Yn ogystal, mae gerddi prydferth a choeth yn y pentref ac maent yn fan poblogaidd gyda thwristiaid. Rhaid i ymwelwyr sy’n teithio i Aberdyfi deithio ar lein yr Amwythig, gan newid yng Nghyffordd Dyfi ger Machynlleth. Yna, rhaid iddynt deithio tua’r gogledd i Borthmadog a chamu ar fws Sherpa fydd yna’n eu cludo i Barc Cenedlaethol Eryri.

 

Abermaw (Y Bermo)



Saif Gorsaf Abermaw ar Reilffordd Arfordirol y Cambrian ac mae yno wasanaethau i lawer o ogledd Cymru a’r Amwythig. Mae’r orsaf yn gwasanaethu tref glan môr Abermaw yn bennaf. Mae Abermaw yn lleoliad hynod boblogaidd gan dwristiaid o hyd a lled y byd, yn enwedig yn yr haf gan mai yma y ceir peth o’r tywydd gorau trwy Gymru gyfan. Mae’r rheilffordd yn croesi’r Afon Mawddach nid nepell o’r orsaf, a hynny wrth groesi pont odidog Abermaw. Gellir cyrraedd gorsaf Abermaw drwy Gyffordd Dyfi. Yna rhaid teithio tua’r gogledd i Borthmadog er mwyn dal bws Sherpa o amgylch Eryri. 


 

Bangor



Mae hon yn orsaf wedi ei staffio mewn dinas hynod boblogaidd. Mae’r swyddfa docynnau ar agor rhwng 5:30am – 6:15pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 11:30am – 6:30pm ddydd Sul. Mae cyfleusterau’r orsaf yn cynnwys, bwffe, ffôn cyhoeddus wrth fynedfa’r orsaf, mynediad i gadeiriau olwyn a mynediad heb risiau i’r platfformau, lle parcio ceir a gorsaf bysys ar y briffordd y tu blaen i’r orsaf. Saif Bangor ar brif lein trenau gogledd Cymru a gellir cyrraedd yno trwy’r brif lein o Fanceinion, Crewe a Llundain. Dyma amcan o hyd siwrne ar y trên i orsaf Bangor o leoliadau hyd a lled y wlad:

Mae modd dal y gwasanaeth bws Sherpa o orsaf bysys Bangor i fyny i Ddyffryn Ogwen. Yn ogystal, mae modd dal y gwasanaeth hwn o Gaernarfon a Betws-y-Coed sydd nid nepell o Fangor.


 

Betws-y-coed



Mae’r orsaf hon yn gyfnewidfa hanfodol bwysig ar gyfer y rhai hynny sy’n dymuno teithio ar fws Sherpa i Barc Cenedlaethol Eryri. Pentref bychan yw Betws-y-Coed ac mae’n atyniad poblogaidd i dwristiaid oherwydd ei leoliad godidog yng nghefn gwlad Cymru, dafliad carreg o’r Parc Cenedlaethol a’r Wyddfa. Gweler adran y ‘Bysys Sherpa’ ar gyfer yr amserlenni bysys diweddaraf. Gellir cyrraedd y pentref ar y trên neu ar gysylltiadau bws o Gyffordd Llandudno. Mae’r trên yn mynd i fyny trwy Ddolwyddelan i Flaenau Ffestiniog ble gallwch newid i drên stêm lein fach Rheilffordd Ffestiniog ac i lawr i Borthmadog.


 

Bae Colwyn



Saif gorsaf Bae Colwyn ar Lein Rheilffordd Arfordirol Gogledd Orllewin Cymru Crewe i Gaergybi. Yr orsaf yw un o’r prif barthau trafnidiaeth yn yr ardal leol ac mae’n cynnig dewis da o wasanaethau trên uniongyrchol i Ynys Môn, Bangor, Llundain a Chaerdydd. Mae wedi ei lleoli’n gyfleus ar y ffordd i mewn i Eryri ac mae’r gwasanaeth bws Sherpa’n cychwyn gerllaw yn Llandudno a Betws-y-Coed.


Crewe


Saif gorsaf Conwy ar Lein Rheilffordd Crewe i Gaergybi, a hynny ar gyrion tref gaerog hyfryd Conwy. Ceir gwasanaethau cyson i Gaer a Manceinion o’r orsaf sydd o fewn pellter cerdded i’r holl brif gyfleusterau sydd i’w cael yn y dref. Gellir dal bysys Sherpa nid nepell i ffwrdd ym Metws-y-Coed trwy gydol y dydd. Gellir cyrraedd Betws-y-Coed o Gyffordd Llandudno, o ble mae bysys Sherpa’n teithio oddi yno trwy gydol y dydd.


Cricieth


Mae’r orsaf yn rhan o Linell Arfordirol y Cambrian a cheir gwasanaethau cyson ar hyd arfordir gwledig Cymru. Mae Cricieth yn dibynnu ar orsaf Cyffordd Dyfi fel y cyswllt rheilffordd rhwng y pentref â’r Parc Cenedlaethol. Saif Cricieth nid nepell o Borthmadog – bydd siwrne gyflym i’r dwyrain yn eich galluogi i gamu ar fws Sherpa.


Harlech



Mae tref olygfaol a hanesyddol Harlech yn brif atyniad i lawer o dwristiaid. Yn yr orsaf, sydd heb ei staffio, ceir pwynt gwybodaeth, ffôn cyhoeddus, mynediad i gadeiriau olwyn, a mynediad heb risiau i blatfformau, ynghyd â lle parcio ceir. Yn ogystal, ceir safle bysys ar y briffordd y tu allan i’r orsaf. Gellir cyrraedd Harlech trwy Gyffordd Dyfi. Rhaid aros ar y trên hyd nes cyrraedd Porthmadog er mwyn dal bws Sherpa.

 

Caergybi



Gorsaf Caergybi yw’r prif gyfleuster rheilffordd yn y rhan yma o Ynys Môn. Mae’r orsaf yn gwasanaethu’r porthladd enwog ble y gwelir llongau’n teithio ohono draw dros Fôr Iwerddon i’r Ynys Werdd. Defnyddir yr orsaf yn helaeth gan draffig teithwyr a chargo fel ei gilydd. Ceir gwasanaethau o Lundain (Gorsaf Euston), Crewe a Chaerdydd yng ngorsaf Caergybi. Rhaid teithio yn ôl i Gaernarfon i ddal bws Sherpa neu gamu ar Reilffordd Eryri a theithio i Borthmadog.


Llwyngwril



Mae modd cyrraedd Harlech a Thywyn ar y lein hon. Rhaid aros ar y trên hyd nes cyrraedd Porthmadog er mwyn dal bws Sherpa.


Porthmadog



Mae yna dair rheilffordd gul ym Mhorthmadog - Rheilffordd Eryri o Gaernarfon (bydd cyswllt newydd yn cael ei gwblhau yn 2009), rheilffordd fechan a chyfeillgar Treftadaeth yr Ucheldir  a rheilffordd Ffestiniog sy’n rhedeg i Blaenau Ffestiniog - yn ogystal â gorsaf Reilffordd Arfordir y Cambrian Mae gwasanaeth bws Sherpa’n mynd yn rheolaidd rhwng Porthmadog, Beddgelert, Pen-y-Pass a Betws-y-Coed.


Tal-y-Cafn



Dyma orsaf rheilffordd ar gyfer cyfres o bentrefi ger Llandudno. Saif yr orsaf drws nesaf i groesfan a bydd cerdded i fyny’r allt yn dod â chi i Erddi Bodnant. O’r orsaf hon, mae modd dal trên i Fetws-y-Coed ble y mae modd cael mynediad llawn at rwydwaith y bysys Sherpa.


Rheilffordd Treftadaeth Eryri



Teithiwch yn ôl mewn amser ar Reilffordd Eryri ym Mhorthmadog, Gogledd Cymru. Mae’r lein rheilffordd bach gul yn cynnwys ymweliad â’r siediau gyda chyfle i ddringo ar yr injans trên a gweld sut mae’r rheilffordd yn gweithio. Delfrydol ar gyfer teuluoedd sydd â phlant ifanc...ac ar gyfer plant hyd at 90 oed! Mae Rheilffordd Eryri’n cychwyn ar ei thaith ym Mhorthmadog ac yno ceir llif cyson o fysys Sherpa trwy gydol y dydd.


Caernarfon



Saif Caernarfon ar un pegwn o Reilffordd Eryri ac mae’n darparu cysylltiad defnyddiol i weddill Eryri trwy’r gwasanaeth bysys Sherpa.


Llanberis



Mae rheilffordd gul Llyn Llanberis yn pwffian mynd ar hyd glannau Llyn Padarn gan roi golygfeydd ffantastig o’r Wyddfa neu os ydych am olwg agosach ar ganolfan ymwelwyr newydd Hafod Eryri ar ben y mynydd, ewch ar daith hawdd i fyny’r mynydd ar Reilffordd yr Wyddfa. (Dim ond pan fydd y trenau’n rhedeg y bydd Hafod Eryri ar agor. Mae’n bosibl prynu tocyn trên unffordd i fyny a cherdded i lawr, ond dylech gofio bod y trenau’n brysur iawn ar ddyddiau braf ac fe’ch cynghorir i archebu tocyn ymlaen llaw).  Mae modd dal bws o Fangor neu Gaernarfon i Lanberis am ddiwrnod allan hyfryd i’r teulu cyfan. Yn ogystal, mae’r gwasanaeth bws Sherpa yn cynnig tripiau cyson i Ben-y-Pass, neu mae modd teithio ymhellach i ymweld â Beddgelert, Capel Curig neu Fetws-y-Coed.