English Teithlenni
TAITH SHERPA S1 – LLANBERIS I BEN Y PAS
Llanberis yw man cychwyn y gwasanaeth S1, sy’n boblogaidd gyda cherddwyr a dringwyr sydd am daclo’r llwybrau amrywiol i fyny’r Wyddfa.
Mae yna amrywiaeth helaeth o bethau i’w gwneud a mannau y gellir ymweld
â nhw yn Llanberis, felly gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o amser ar
eu cyfer. Os ydych am aros ychydig o nosweithiau mae rhywbeth ar gael
at ddant pawb, o wersylla i dai bynciau i Wely a Brecwast a gwestai.
Teithiwch i mewn i’r ceudyllau tanddaearol o Ganolfan Ymwelwyr y Mynydd Gwefru i weld sut mae trydan yn cael ei gynhyrchu. Gallwch fwynhau archwilio Parc Padarn, coetir derw 800 erw, sy’n llawn trywyddau a llwybrau. Talwch ymweliad ag Amgueddfa Lechi Cymru
i gael cipolwg ar fywyd chwarelwyr llechi ac yna tarwch i mewn i
Ysbyty’r Chwarel i weld tystiolaeth o’r caledi y buon nhw’n ei wynebu’n
ddyddiol. Mae rheilffordd gul
Llyn Llanberis yn pwffian mynd ar hyd glannau Llyn Padarn gan roi
golygfeydd ffantastig o’r Wyddfa neu os ydych am olwg agosach ar
ganolfan ymwelwyr newydd Hafod Eryri ar
ben y mynydd, ewch ar daith hawdd i fyny’r mynydd ar Reilffordd yr
Wyddfa. (Dim ond pan fydd y trenau’n rhedeg y bydd Hafod Eryri ar agor.
Mae’n bosibl prynu tocyn trên unffordd i fyny a cherdded i lawr, ond
dylech gofio bod y trenau’n brysur iawn ar ddyddiau braf ac fe’ch
cynghorir i archebu tocyn ymlaen llaw). Gallech hefyd ymweld â Chastell Dolbadarn,
un o’r cestyll Cymreig harddaf i oroesi, sy’n gofeb i Llewelyn ab
Iorwerth neu Llewelyn Fawr.
Ar Stryd Fawr y pentref gallwch gael ar yr holl
offer awyr agored y byddwch ei angen a phrynu bwyd neu anrheg i fynd
adref gyda chi. Hefyd mae yna amrywiaeth o gaffis a thai bwyta yno.
Gall y Ganolfan Groeso yng
nghanol y pentref roi gwybodaeth i chi am yr uchod i gyd, yn ogystal â
rhifau cyswllt y gweithgareddau niferus sydd ar gael yn yr ardal, gan
gynnwys cwrs rhaffau, rhwyfo caiacau a cherdded mynyddoedd.
O
deithio ar yr S1 allan o Lanberis fe fyddwch cyn pen dim yn cyrraedd
pentref bach Nant Peris, sydd eto’n gallu cynnig dewis o lety.
Mae’r bws wedyn yn dechrau dringo tirwedd garw Bwlch Llanberis i Ben y Pas. Maes parcio prysur Pen y Pas yw man cychwyn dau lwybr i fyny’r Wyddfa ac mae yna gaffi a hostel ieuenctid yma hefyd.
Gellir cyrraedd Llanberis ar fws rhif 88 o Gaernarfon a bysiau 85 ac 86 o Fangor.
TAITH SHERPA S2 - LLANDUDNO I FETWS Y COED
Llandudno,
tre glan môr Fictoraidd a man cychwyn taith Sherpa S2 (yn ystod yr haf
mae bws to agored yn rhedeg). Mae amrywiaeth o leoedd i aros o dai
Gwely a Brecwast traddodiadol i westai 4*. Gallwch deithio i gopa Pen y Gogarth ar
dram neu gar cebl o’r 19eg ganrif neu ymarfer eich sgiliau yn y
ganolfan sgïo ac eirafyrddio. Mae gorsaf Llandudno’n cysylltu â
Chyffordd Llandudno sy’n cysylltu â gwasanaethau trenau o’r rhan fwyaf
Brydain. Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy’n rhan o’r Rhwydwaith
Rheilffordd Genedlaethol, yn cynnig taith llawn golygfeydd gwych o
Landudno, trwy Lanrwst a Betws y Coed i fyny i Flaenau Ffestiniog.
Mae’r S2 mynd â chi drwy dref farchnad brysur Llanrwst cyn cyrraedd pentref prydferth Betws y Coed,
lle mae afon Conwy yn cwrdd â thair llednant - afonydd Llugwy, Lledr a
Machno. Mae’r offer diweddaraf ar gyfer dringo a cherdded ar gael yn y
nifer o siopau nwyddau awyr agored sydd yno, yn ogystal â siopau anrhegion o ansawdd, caffis a gwestai. Mae amgueddfa rheilffordd,
cwrs golff, canolfan raffau antur, dŵr gwyn delfrydol ar gyfer canŵio a
mannau llogi beiciau yn golygu bod rhywbeth yma o ddiddordeb i bawb.
Gall y Ganolfan Groeso yn ymyl
yr orsaf gynnig gwybodaeth am yr holl bethau yma i’w gwneud, yn ogystal
ag amserlenni bysiau, mannau i aros ac yn y blaen. Mae Llanrwst a Betws
y Coed ill dau yn fannau aros ar Reilffordd Dyffryn Conwy o Landudno i
fyny i Flaenau Ffestiniog.
Mae’r S2 wedyn yn troi tua’r gorllewin i gyfeiriad Capel Curig, gan basio’r Rhaeadr Ewynnol
enwog ar y ffordd (yn anffodus mae angen tipyn o law i’w gweld ar ei
gorau!). Mae mwy o gyfleoedd i brynu offer awyr agored hanfodol yng
Nghapel Curig yn ogystal â mannau bwyta cyfleus. Mae hefyd yn gartref i
Blas y Brenin, y Ganolfan
Fynydda Genedlaethol sy’n cynnig cyrsiau a hyfforddiant mewn
gweithgareddau awyr agored. (Os ydych yn dymuno teithio ymlaen i Fangor
trwy Fwlch dramatig Nant Ffrancon, dyma’r lle y byddech yn newid bysiau ac yn dal yr S6).
Gallwch werthfawrogi golygfeydd syfrdanol Eryri
a’r mynyddoedd cyfagos wrth i’r S2 ddechrau dringo heibio i Westy Pen y
Gwryd, man cyfarfod dringwyr cyntaf i gyrraedd copa Everest, i fyny at
Ben y Pas. Maes parcio prysur Pen y Pas yw man cychwyn dau lwybr i fyny’r Wyddfa ac mae yna gaffi a hostel ieuenctid yno hefyd.
Yn
yr haf, pam nad ewch chi ar daith gyffrous ar y ‘bws penagored’. Mae’r
daith yn cynnig golygfeydd di-dor o gwm gwyrdd Conwy cyn teithio ymlaen
drwy’r tirlun dramatig a grymus o gwmpas Eryri.
Os nad ydych
am ddychwelyd ar yr S2, gallech barhau ar yr S97 i Feddgelert, ac yna’r
S4 i Gaernarfon. O Gaernarfon mae bysiau 5 a X5 yn teithio’n ôl i
Landudno
TAITH SHERPA S4 – CAERNARFON I FEDDGELERT
Caernarfon yw man cychwyn taith S4. Mae amrywiaeth o siopau, caffis, Gwely a Brecwast a gwestai yn ymestyn allan o sgwâr mawr y dref sy’n gorwedd dan gysgod y castell nodedig o’r 13eg ganrif. Ceir golygfeydd ysblennydd o’r castell, y mynyddoedd ac Ynys Môn ar fordaith ar Afon Menai ond mae yna hefyd ddigon i’w wneud dan do os nad yw’r tywydd yn braf – Amgueddfa’r Môr, adeilad celfyddydau’r Galeri, Canolfan Chwarae Hwylfan, Canolfan Rasio Ceir Redline, a phwll nofio a chanolfan dennis.
Yn gwau nôl ac ymlaen ar draws y llwybr S4 allan o Gaernarfon mae Rheilffordd Eryri,
sy’n defnyddio locomotifau stêm nerthol 2’ o led i deithio i fyny’r
graddiant serth i’r bryniau ar odre’r Wyddfa. (Yn 2009 bydd Rheilffordd
Eryri’n cael ei ymestyn i Borthmadog lle gellir dal trên cyswllt ar Reilffordd Ffestiniog i fyny i Flaenau Ffestiniog)
Mae'r S4 yn teithio trwy bentref bychan Waunfawr, lle mae gan Antur Waunfawr siop grefftau, meithrinfa arddio a chaffi. Mae gorsaf Rheilffordd Eryri ger gwersyllfa a thafarn. Ychydig filltiroedd yn nes ymlaen at Gwellyn mae Hostel Ieuenctid
Llwybr Llyn Cwellyn, lle gallech chi fentro ar un o’r llwybrau i fyny’r
Wyddfa neu grwydro’n hamddenol ar hyd Llwybr Janus ar ochr y llyn.
Fe gewch olygfeydd gwych o’r Wyddfa cyn cyrraedd pentref bychan Rhyd Ddu, man cychwyn un o lwybrau’r Wyddfa
a nifer o deithiau cerdded cylchol. Mae yna nifer o fannau bwyta a
gorsaf arall Reilffordd Eryri.
Daw’r llwybr S4 i ben ym Meddgelert, pentref prydferth ar lan yr afon Glaslyn. Gallwch ddysgu am chwedl Gelert,
ci ffyddlon y Tywysog Llywelyn Fawr neu dreulio amser yn y nifer o
siopau crefftau, siop nwyddau awyr agored, caffis, tai bwyta, tafarndai
a gwestai. Mae’r Ganolfan Groeso yng nghanol y pentref yn cynnig gwybodaeth am leoedd i aros a phethau i’w gwneud.
Am lwybr arall i fynd yn ôl i Gaernarfon – o Feddgelert
gallwch deithio ar yr S97 i fyny i Ben y Gwryd, yr S1 i Lanberis ac
yna’r rhif 88 nôl i Gaernarfon. Neu gall yr S97 fynd â chi i Gapel Curig, yna’r S6 i Fangor a’r bysiau 5, X5, 9A nôl i Gaernarfon.
TAITH SHERPA S6 – BANGOR I FETWS Y COED
Mae’r gwasanaeth Sherpa S6 yn cychwyn yn fuan bob bore yn ninas arfordirol Bangor, gyda’i eglwys gadeiriol a’r Brifysgol boblogaidd (yn hwyrach yn y dydd, cymerwch bws i Bethesda
(77) ac dal y S6 o’r Bethesda). Ewch am dro ar y pier gan fwynhau’r
golygfeydd panoramig o’r môr a’r mynyddoedd, talwch ymweliad ag Amgueddfa Bangor i gael cefndir hanesyddol yr ardal neu ewch i nofio yn y pwll nofio. Bangor yw’r orsaf olaf ar y tir mawr ar y daith o orsaf Euston yn Llundain i Gaergybi yn ogystal â chysylltiadau rheilffordd rheolaidd i’r rhan fwyaf o ardaloedd ym Mhrydain.
O’r Bangor mae’r bws wedyn yn mynd tua’r de i gyfeiriad Bethesda, pentref chwarel ar un adeg ond sydd erbyn hyn ag amrywiaeth o siopau a chaffis. Rhwng Bangor a Bethesda mae Lôn Las Ogwen,
llwybr beiciau a cherdded sy’n rhedeg ar hyd hen linell reilffordd gul.
Fel arfer gall y bysiau ar lwybrau yr S2 ac S6 gario nifer fechan o
feiciau os ydych am orffwys yn ystod y beicio.
Mae’r llwybr wedyn yn pasio trwy rai o olygfeydd mynyddig gwylltaf Gogledd Cymru i Fwlch Nant Ffrancon cyn cyrraedd Llyn Ogwen a Bwthyn Ogwen. Mae yna gaffi bychan a phwynt gwybodaeth yn y maes parcio sy’n fan cychwyn teithiau cerdded i fyny Glyderau a Thryfan ac i Gwm Idwal.
Mae’r S6 wedyn yn mynd tuag at Gapel Curig, lle ceir cyfle i gasglu mwy o nwyddau awyr agored hanfodol a lle mae hefyd nifer o fannau hwylus i fwyta. Yno hefyd mae Plas y Brenin, y Ganolfan Fynydda Genedlaethol sy’n cynnig cyrsiau a hyfforddiant mewn gweithgareddau awyr agored.
Ym mhentref prysur Betws y Coed mae’r offer dringo a cherdded diweddaraf ar werth yn y nifer o siopau offer awyr agored yn ogystal â siopau anrhegion, caffis a gwestai. Mae amgueddfa rheilffordd, cwrs golff, canolfan raffau antur a man llogi beiciau’n golygu bod rhywbeth ar gael o ddiddordeb i bawb. Mae’r Ganolfan Groeso
yn ymyl yr orsaf yn cynnig gwybodaeth am yr holl weithgareddau yma, yn
ogystal ag amserlenni bysiau, llefydd i aros ac ati. Mae Betws y Coes
yn fan aros ar Reilffordd Dyffryn Conwy sy’n rhedeg o Landudno i fyny i Flaenau Ffestiniog.
Os
nad ydych am ddychwelyd ar yr S6, gallech deithio ar yr S2 i Gyffordd
Llandudno ac yna’r bysiau 5,X5 neu 9 yn ôl i Fangor. Neu gallech
deithio ar yr S2 i Ben y Pas, yr S1 i Lanberis, a’r bysiau 85/86 i
Fangor.
TAITH SHERPA S97 – PORTHMADOG I BEN Y PAS
Tref harbwr brysur Porthmadog, i’r dwyrain o dirwedd prydferth Penrhyn Llŷn, yw cychwyn taith yr S97. Mae yna amrywiaeth ddeniadol o siopau ac mae pentref ffantasi unigryw Portmeirion gerllaw. (Mae’r bws 99B yn rhedeg rhwng Mis Mawrth a Mis Hydref). Mae yna dair rheilffordd gul
ym Mhorthmadog - Rheilffordd Eryri o Gaernarfon (bydd cyswllt newydd yn
cael ei gwblhau yn 2009), rheilffordd fechan a chyfeillgar Treftadaeth
yr Ucheldir a rheilffordd Ffestiniog sy’n rhedeg i Blaenau Ffestiniog -
yn ogystal â gorsaf Reilffordd Arfordir y Cambrian. Hefyd mae yna
ganolfan hamdden sy’n cynnwys pwll nofio.
Tua 20 munud o Borthmadog mae’r S97 yn teithio trwy Fwlch Aberglaslyn hyfryd gan gyrraedd Beddgelert,
pentref prydferth ar lannau afon Glaslyn. Gallwch ddysgu am chwedl
Gelert, ci ffyddlon y Tywysog Llywelyn Fawr neu dreulio amser yn y
nifer o siopau crefftau, siop nwyddau awyr agored, caffis,
tai bwyta, tafarndai a gwestai. Mae’r Ganolfan Groeso yng nghanol y
pentref yn cynnig gwybodaeth am leoedd i aros a phethau i’w gwneud.
(Ym
Meddgelert gallech newid i’r S4 tuag at Gaernarfon sy’n mynd heibio
mannau cychwyn teithiau cerdded y Snowdon Ranger a Rhyd Ddu i fyny’r
Wyddfa)
Wrth deithio ymlaen ar yr S97, y tu allan i Feddgelert fe fyddwch yn pasio Craflwyn,
canolfan gweithgareddau, diddordeb arbennig a chynadledda’r
Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ychydig filltiroedd yn nes ymlaen mae
Gwaith Copr Sygun, lle gallwch archwilio’r gwaith tanddaearol a
rhyfeddu at y stalactidau a’r stalagmidau.
Pentref bychan Nant Gwynant yw cychwyn Llwybr Watkin i fyny’r Wyddfa ac mae yna gaffi
hwylus ar gyfer ymwelwyr llwglyd.
Mae’r S97 wedyn yn teithio i fyny bwlch cul Nant Gwynant lle gallwch fwynhau golygfeydd gwych o Lyn Gwynant
a’r Wyddfa cyn troi i’r chwith ym Mhen y Gwryd, man cyfarfod y dringwyr
cyntaf i wynebu Everest, ac yna dringo’n serth i fyny i Ben y Pas. Maes
parcio prysur Pen y Gwryd yw man cychwyn dau lwybr i fyny’r Wyddfa ac mae yna gaffi a hostel ieuenctid yno hefyd.
(O
Ben y Pas gallech fynd yn ôl i Borthmadog trwy deithio ar yr S1 i
Lanberis, y rhif 88 i Gaernarfon a’r bysiau rhif 1 a 2 nôl i
Borthmadog)
Gwasanaeth S96 - Morfa Bychan i Rydd Ddu
Mae hwn yn wasanaeth masnachol newydd yn cael ei redeg gan Express, mae yn fws deulawr gyda tho agored yn mynd o Forfa Bychan i Ryd Ddu ac a lansiwyd ym mis Mai. Mae hwn yn gyswllt â Rheilffordd Eryri er nad oes tocynnau ar y cyd eto wedi cael eu cyflwyno.