Adref  |  Parcio  |  Trafnidiaeth  |  Awyr Agored  |  Am-dan Menter SGK  |  Prosiectau  |  Cysylltu  |  COA
Gwynedd Council Conwy Council Snowdonia National Park Countryside Council for Wales Wales Tourist Board Welsh Assembly Government

English Car

Mae’r nifer o ymwelwyr i’r Parc Cenedlaethol yn codi bob blwyddyn ac mae dros 90% o’r ymwelwyr hynny yn cyrraedd gyda char, felly mae rheoli’r fath nifer o drafnidiaeth yn dasg bwysig. Bu GGE yn gweithio er mwyn darparu mwy o wybodaeth drwy gyfrwng arwyddion a thaflenni ar gyfer gyrwyr ynglŷn â pharcio, llwybrau beicio a cherdded a chludiant cyhoeddus er mwyn osgoi tagfeydd a siomedigaeth siwrneiau seithug.

Mae’n bwysig bod pobl yn parcio yn gyfreithlon a diogel, oherwydd gall hyn achosi problemau ac yn beryglus i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd pe bydd y cefnffyrdd wedi eu llenwi gyda cheir wedi’u parcio. Mae natur twristiaeth yng ngogledd Eryri yn parhau i newid gyda chynnydd mawr mewn teithiau undydd a thwristiaeth gwyliau byr ar gyfer diddordebau arbennig. Mae hyn o ganlyniad yn y cynnydd mewn perchnogaeth ceir a gwelliannau i’r ffyrdd mynediad. Prif farchnad ymwelwyr yw preswylwyr y DU gyda 65% o bob ymweliad gan dwristiaid yn digwydd rhwng mis Mai a mis Medi.Cliciwch ar y cyswllt isod er mwyn gweld ble mae prif feysydd parcio yng ngogledd Eryri.

Lle i parcio...