Adref  |  Parcio  |  Trafnidiaeth  |  Awyr Agored  |  Am-dan Menter SGK  |  Prosiectau  |  Cysylltu  |  COA
Gwynedd Council Conwy Council Snowdonia National Park Countryside Council for Wales Wales Tourist Board Welsh Assembly Government

English Gwaith i greu llwybr pwysig yn Eryri yn cychwyn - 19 Ionawr 2009

Mae disgwyl i’r gwaith cychwynnol, a fydd yn cynnwys ail-adeiladu rhannau o’r wal gerrig ar hyd ffordd yr A4086 yn Nant Peris, a darparu llwybr ffordd addas y tu ôl i’r wal i greu cyswllt newydd rhwng y maes parcio a’r hostel gael ei gwblhau erbyn diwedd Mawrth.

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu a’i reoli rhwng Parc Cenedlaethol Eryri a phrosiect Goriad Gwyrdd Eryri, sef cynllun ar y cyd sy’n cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Croeso Cymru a Llywodraeth y Cynulliad. Yn y gorffennol mae’r prosiect Goriad Gwyrdd wedi cyflwyno cyfres o gynlluniau sy’n cynnwys gwelliannau i gyfnewidfeydd bws, cysgodfeydd bws, cyswllt troedffyrdd a meysydd parc.

Dywedodd Billy Lee o Gynllun Goriad Gwyrdd Eryri:

“Rydan ni’n hyderus y bydd y llwybr, pan fydd wedi ei gwblhau, yn darparu adnodd gwych i rhai hynny sy’n mwynhau cerdded yn Eryri.

“Mae’r prosiect hwn yn rhan o gynllun ehangach Goriad Gwyrdd Eryri, sy’n anelu i ddiwallu’r angen cynyddol gan bobl i fwynhau ardal y Parc Cenedlaethol wrth wella a chreu opsiynau trafnidiaeth fwy addas a chynaliadwy.”

Yn y dyfodol, mae gobaith y bydd posib, fel rhan o argymhelliad Cylchdaith yr Wyddfa, i gysylltu a gwella rhannau o’r llwybr sy’n rhedeg ar hyd ochr ddeheuol o’r afon rhwng Gwastadnant a Phen y Pass fel y gall cerddwyr barcio ym maes parcio Nant Peris, a cherdded oddi ar y fordd i fyny i Ben y Pass.