Heddiw mae Cymdeithas Eryri yn Lansio Gwobrau Twristiaeth Eryri Werdd 2009 – sy’n sicrhau gwobr o hyd at £500 i’r enillwyr sydd wedi hybu agweddau gwyrdd eu busnesau twristiaeth a’u harddangos i’n beirniaid; byddant hefyd yn derbyn llawer o gyhoeddusrwydd yn rhad ac am ddim.
Dyma drydedd flwyddyn y Gwobrau pwysig yma sy’n cydnabod busnesau twristiaeth Parc Cenedlaethol Eryri a’r cyffiniau sydd wedi cymryd camau i wella eu busnes yn y meysydd canlynol:
Rheolaeth Adnoddau - Rheolaeth Gwastraff - Prynu’n lleol - Perthynas â’r Gymuned - Cynyddu Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Staff - Cynyddu Ymwybyddiaeth Ymwelwyr - Hyrwyddo Iaith a Diwylliant Cymru - Rheolaeth Bioamrywiaeth
Mae angen i fusnesau sydd â diddordeb anfon ffurflen gais wedi ei chwblhau, ar gael oddi wrth Emma Edwards-Jones, at Gymdeithas Eryri,01690 720287, twristiaeth@cymdeithas-eryri.org.uk, neu gellir ei llwytho i lawr o www.eryri-gwyrdd.co.uk Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 10fed Ebrill 2009.
Neges y Gymdeithas i fusnesau twristiaeth yw – Wnewch chi ddim ennill os na fyddwch yn cystadlu! Felly:
Efallai eich bod wedi gwneud cryn ymdrech mewn un maes
Efallai eich bod wedi gweithredu’n ‘wyrdd’ ers blynyddoedd
Efallai eich bod wedi dechrau gwneud pethau’n ‘wyrdd’
Efallai eich bod wedi gwneud rhywbeth arloesol mewn un maes
Cwblhewch ffurflen gais os gwelwch yn dda – efallai mai CHI fydd yn ennill!
Mae busnesau sydd ag ethos gwyrdd wrth wraidd eu gweithgareddau yn fwy effeithiol, yn fwy cystadleuol ac yn marchnata’n well ac mae hyn yn sicrhau gwell cyfle iddynt wrthsefyll yr argyfwng credyd. Hefyd, gall busnesau cynaliadwy fod â chydwybod glir gan eu bod yn lleihau eu heffeithiau ar yr amgylchedd hyfryd y mae eu busnes yn seiliedig arno.
Meddai Emma Edwards-Jones, Swyddog Project Eryri Werdd y Gymdeithas: "Mae enillwyr Gwobrau Twristiaeth Eryri Werdd yn bobl ddyfeisgar ac arloesol sy’n amlygu’r cyfraniad y mae’r diwydiant twristiaeth yn gallu ei wneud i amgylchedd, economi a chymunedau Eryri."
"Er enghraifft, mae Trigonos, canolfan breswyl ac addysg a llety gwely a brecwast yn Nantlle, wedi buddsoddi mewn system fwyler sglodion coed sydd wedi cwtogi eu gollyngiadau o CO2 o 75%. O ganlyniad i hyn, ar y cyd â’u hymrwymiad i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff a’u gardd gegin fawr sydd hefyd yn cyflenwi llysiau i’r gymuned leol drwy gyfrwng siop fferm a Marchnad Talysarn, fe’u henwyd y Busnes Twristiaeth Cynaliadwy Gorau, a dyfarnwyd iddynt hefyd y Wobr Garbon Isel yn 2008."
"Mae Project Eryri Werdd yn hybu cymuned gynyddol o fusnesau ‘gwyrdd’ yn yr ardal sy’n fodlon rhannu eu profiadau a’u hymchwil. Am ragor o wybodaeth dylai perchnogion/rheolwyr busnesau e-bostio twristiaeth@cymdeithas-eryri.org.uk neu ymweld ag www.eryri-gwyrdd.co.uk."
Hoffai Cymdeithas Eryri ddiolch i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Croeso Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy, Cyngor Gwynedd a’r Ymddiriedolaeth Garbon am noddi’r gwobrau. Trefnir Gwobrau Twristiaeth Eryri Werdd 2009 gan Gymdeithas Eryri fel rhan o’u Project Eryri Werdd, a ariennir gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy CAE a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.