Adref  |  Parcio  |  Trafnidiaeth  |  Awyr Agored  |  Am-dan Menter SGK  |  Prosiectau  |  Cysylltu  |  COA
Gwynedd Council Conwy Council Snowdonia National Park Countryside Council for Wales Wales Tourist Board Welsh Assembly Government

English Aros yn ddiogel ar y Mynyddoedd - 12 Chwefror 2009

Mae’r Cyngor Mynydda Prydeinig wedi rhyddhau datganiad ar ei wefan mewn ymateb i’r trychinebau ar yr Wyddfa’n ddiweddar. Mae’r datganiad yn amlygu’r sgiliau pwysig sydd eu hangen i reoli’r peryglon sy’n codi. “Mae rhai o’r sgiliau’n rhai technegol ond mae barnu a phenderfynu’n gytbwys yr un mor bwysig. Mae’n cymryd amser i fagu’r sgiliau hyn”

Daw hyn ar ôl cais taer gan y timau achub mynydd lleol i bawb gadw draw o’r mynyddoedd yn y tywydd garw os nad ydyn nhw’n fynyddwyr profiadol gyda bwyeill eira a chramponau, ac yn gwybod sut i’w defnyddio.

Mae’r mynyddoedd yn ddeniadol a hardd yn y gaeaf, ond, meddai’r Cyngor: “Er ei bod yn gymharol hawdd cyrraedd mynyddoedd Eryri yn yr haf a’r gaeaf mae’n bwysig serch hynny cofio fod y tirwedd mor arw ag ar unrhyw un o fynyddoedd ynysoedd Prydain.”

Rhai o’r pwyntiau y mae’r Cyngor yn eu hystyried yn arbennig o bwysig yw:

  • Talu sylw i ragolygon y tywydd a dewis amcanion sy’n addas.
  • Bod â dillad cynnes gyda’r cyfarpar technegol angenrheidiol.
  • Bod yn wyliadwrus wrth chwilio am antur. Datblygu sgiliau’n raddol drwy ddewis amcanion sy’n adeiladu ar brofiad blaenorol.
  • Peidio â chael eich dylanwadu gan y lol ynghylch gweithgareddau antur yn yr 21 ganrif. Nid rhuthro ‘amdani’ yw’r peth gorau bob amser.
  • Mae digon o wybodaeth a hyfforddiant ar gael.

Cliciwch yma am Ragolygon y Tywydd ar yr Wyddfa.