Adref  |  Parcio  |  Trafnidiaeth  |  Awyr Agored  |  Am-dan Menter SGK  |  Prosiectau  |  Cysylltu  |  COA
Gwynedd Council Conwy Council Snowdonia National Park Countryside Council for Wales Wales Tourist Board Welsh Assembly Government

English Pen y Gwryd - 09 Mehefin 2009

Mae’r mwyafrif o gerbydau’n parcio ym Mhen y Gwryd oherwydd nad oes digon o le ym Mhen y Pas. Yn ystod cyfnodau brig gall fod dros 200 o geir wedi’u parcio ar rannau o’r hen briffordd ac ar leiniau glas o gwmpas Pen y Gwryd ac, ar ddyddiau hynod o brysur, ar y ffyrdd i fyny at Ben y Pas ac i lawr i Nantgwynant. Nid yn unig mae hyn yn edrych yn hyll ac yn ymwthiol ond mae’n creu problemau i ddefnyddwyr eraill y ffordd. Does dim maes parcio cyhoeddus yma na mannau parcio swyddogol neu ffurfiol ar wahân i faes parcio preifat Gwesty Pen y Gwryd (at ddefnydd cwsmeriaid yn unig).

Mae lleiniau glas yr ardal yn dangos arwyddion sylweddol o draul ac yn benodol mae'r gilan i gyfeiriad Capel Curig yn llawn tyllau.

Bydd gwaith yn dechrau ar 1 Mehefin i greu tua 90 o fannau parcio ar rai lleiniau glas drwy greu wynebau mandyllog caled a defnyddio rhannau o’r hen briffordd tra, yr un pryd rwystro parcio ar rannau eraill drwy ffurfio cloddiau isel.

Ble bynnag y bydd yn bosibl defnyddir defnyddiau sy’n amgylcheddol gyfeillgar ac yn gynaliadwy. Lefelir a gosodir Eco Bloc ar y lleiniau glas presennol sydd i’w defnyddio ar gyfer parcio. Bydd hynny’n gadael i’r gwellt dyfu a bydd yn edrych fel llain las pan nad yw’n cael ei ddefnyddio. Bydd y rhannau o’r llain glas sydd i’w defnyddio ar gyfer cerddwyr yn cael eu tacluso a’u gadael fel ag y maent. Wynebir mynediad i’r hen ffordd ym mhen Nantgwynant a’r ddwy gilan at Gapel Curig gyda tharmac, ac felly hefyd y lled ychwanegol lle bydd bysiau’n gallu troi.

Bydd lle y bydd bysiau’n troi hefyd yn arosfan bws ar gyfer pob taith rhwng Pen y Gwryd a Phen y Pas a bydd yn cael ei ymestyn er mwyn gallu dal mwy nag un bws ar y tro ac i alluogi bysiau sy’n dod o gyfeiriad Nantgwynant droi i mewn. Bwriedir hefyd gael arosfan bws newydd o flaen Gwesty Pen y Gwryd ar gyfer teithwyr sy’n teithio tuag at Gapel Curig.

Mae’r bobl sy’n parcio ym Mhen y Gwryd ar hyn o bryd yn cerdded i fyny’r ffordd gul at Ben y Pas. Byddai’n anodd datblygu llwybr troed ar hyd y briffordd ond dechreuwyd trafod gyda’r tirfeddiannwr preifat am ganiatâd i adeiladu llwybr troed i gysylltu â Phen y Pas.

Bydd dau beiriant talu ac arddangos yn cael eu gosod mewn mannau anymwthiol (yn y tirlun) a’r prisiau fydd £4.00 am ddiwrnod cyfan a £2.00 am hanner diwrnod. Bydd incwm o’r peiriannau talu ac arddangos yn cyfrannu’n uniongyrchol at wasanaeth bws Sherpa Eryri.

O’r blaen roedd y gwasanaeth bws Sherpa yn cael grant refeniw a oedd yn gostwng bob blwyddyn. Er bod y nifer sy’n defnyddio’r gwasanaeth bws yn cynyddu’n gyson, bydd dal rhaid cael ffynonellau eraill o sybsidi, megis incwm parcio ceir. Yn 2008 cafwyd cytundeb gyda Pharc Cenedlaethol Eryri y byddai incwm o'r peirannau talu ac arddangos mewn dau o'u meysydd parcio h.y. Pont Bethania a Snowdon Ranger yn cyfrannu at y gwasanaeth Sherpa. Mae canran o incwm parcio ceir ym maes parcio Dolbadarn (ym mherchnogaeth Parc Padarn) hefyd ar gael. Gwnaed gwaith hefyd i wella parcio wrth ochr y llyn yn Llanberis, a fydd hefyd yn cynnwys gosod peiriant talu ac arddangos i gael incwm yn uniongyrchol i’r Sherpa. Mae rhai o’r meysydd parcio hyn yn cynnig tocyn bws rhad am ddim gyda’r tocyn parcio er mwyn annog pobl i ddefnyddio’r gwasanaeth Sherpa .

Bydd y Gorchymyn Traffig i rwystro parcio’n weithredol o Bont Gwryd (y ffin rhwng Gwynedd a Chonwy) ar yr ochr ddwyreiniol a Phont Goleugoed ar ochr Beddgelert, pellter o tua ¾ milltir.

Bydd gwaith ar y lleiniau glas a gosod y peiriannau talu ac arddangos wedi’i gwblhau erbyn 17 Gorffennaf. Ni fydd unrhyw waith yn cael ei wneud rhwng yr adeg hynny a’r 1af o Fedi ond bydd y contractwyr yn dychwelyd i'r safle ym mis Medi i orffen y gwaith i'r cilannau.